Ymateb gan Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Cyflwyniad

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth economaidd ranbarthol gynhwysol a threfniant ymgysylltu rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac mae’n un o bedair partneriaeth ar draws Cymru.  Wedi’i sefydlu yn 2015, ei nod yw cynrychioli buddiannau’r rhanbarth a hyrwyddo blaenoriaethau er mwyn gwella ein heconomi leol.  Pwrpas craidd y bartneriaeth yw galluogi’r rhanbarth i gyflawni’i rôl fel pwerdy gwledig Cymru.

Mae’r Bartneriaeth hon yn adeiladu ar y berthynas hirdymor a ddatblygodd, ac sy’n parhau i gydweithio, er mwyn datblygu polisi a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol (TraCC) sy’n darparu diweddariadau ar gyfer y Bartneriaeth ac sy’n gweithredu fel ei Gweithgor Cysylltedd a Seilwaith, gan weithio dan Gytundeb Rhyng-Awdurdod rhwng Cynghorau Ceredigion, Powys a Gwynedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar greu coridor strategol, gan  weithio gyda Phartneriaeth Menter Leol y Gororau, ‘Midland Connect’ a Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein Strategaeth Cludo Nwyddau ar gyfer y Gororau a Chanolbarth Cymru a’i fframwaith arfarnu.  Mae hyn wedi tanlinellu’r angen i asesu’r buddiannau economaidd ehangach all ddod yn sgil buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth.

Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ddatblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.

Ymateb i gwestiynau

A yw trefn lywodraethu, strwythur a dulliau ariannu presennol Trafnidiaeth Cymru’n effeithiol a thryloyw?

Mae Trafnidiaeth Cymru’n sefydliad newydd ac mae ei ddatblygiad wedi’i ddilyn drwy’r Senedd.  Deellir bod ei strwythur a’r gwaith o recriwtio personél yn dal i fynd rhagddo.

Mae ei wefan yn nodi bod Bwrdd Cyfarwyddwyr a Thîm Gweithredol, a cheir yno hefyd amlinelliad o’i gynllun busnes dros ddwy flynedd.  Fe’i disgrifir fel cwmni di-elw sydd dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, a’i gylch gwaith yw darparu cyngor technegol er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddatblygu polisïau a chyflenwi ar ei rhan.

Nodir hefyd bod disgwyl i’r sefydliad dyfu ac ymgymryd â dyletswyddau pellach, yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes.

Mae’r adnoddau’n cynyddu rhwng 2018/19 a 2019/20 (o £102m i £181m ac o £55m i £148m).

Erbyn hyn mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ynghylch llywodraethu a rheoli sy’n ymddangos yn dryloyw.  Mae hyn yn wahanol i pan ddaeth i fodolaeth yn y lle cyntaf, pan oedd angen inni chwilio am wybodaeth a cheisio creu darlun o’i bwrpas, ac mae’r broses o geisio datrys beth yn union mae cyflenwi’r fasnachfraint rheilffordd yn ei olygu mewn gwirionedd yn dal i fynd rhagddo, am nad yw’r manylion y tu ôl i’r penawdau wedi’u datgelu’n llwyr eto.

Mae’r ffordd y bydd Trafnidiaeth Cymru’n tyfu yn parhau i fod yn annelwig, ond ymddengys bod uchelgais mewn perthynas â rôl bellach gyda bysus, ac fel rhanbarthau, rydym wedi bod yn rhan o weithgorau i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r ddarpariaeth bresennol, gan gyfrannu at y gwaith fel rhan o’r ymdrechion i ddatblygu achos busnes ar gyfer rhai gwasanaethau megis trefniadau swyddfa gefn, sy’n cael eu cyflenwi’n lleol ar hyn o bryd.  Hyd nes bod achos busnes llawn yn cael ei gynnig, nid oes modd i awdurdodau lleol asesu’r goblygiadau’n llwyr.

Mae’r gwaith o gyflenwi’r seilwaith Trafnidiaeth ar draws Cymru wedi digwydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd bellach.  Mae’n aneglur o hyd sut fydd y berthynas newydd yn gweithio, o ran cytuno ar brosiectau ac ariannu, a beth fydd rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.  Yr hyn nad yw awdurdodau lleol yn dymuno’i weld yw bod dyblygu yn digwydd yn y broses, a bod penderfyniadau’n cael eu cyfathrebu’n gyflym.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cynlluniau ariannu pum mlynedd dangosol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, a byddem hefyd yn croesawu dyraniad dangosol tebyg ar gyfer awdurdodau lleol i gyflenwi trafnidiaeth.

 

Pa gamau ddylid eu cymryd i ddatblygu’r agweddau hyn o’r sefydliad?  Pa fodelau llywodraethu ac arfer da arall sydd ar gael?

 

Mae angen tryloywder mewn perthynas â threfniadau’r sefydliad.  Byddai cynllun sefydliadol o gymorth i ddeall atebolrwydd a mecanweithiau adrodd.

 

Dylai atebolrwydd  i’r broses ddemocrataidd leol fod yn hanfodol yn y dyfodol.  Mae penderfyniadau am briffyrdd a chyflenwi trafnidiaeth o fewn rhanbarth Canolbarth Cymru’n cael effaith ar ein trigolion a’n busnesau, yn ogystal ag ardaloedd cyfagos ar hyd ein prif goridorau.  Mae ein proses llywodraeth leol bresennol yn galluogi’n haelodau, a etholir yn lleol, i bennu a dilyn trywydd prosiectau a gwasanaethau er budd ein cymunedau, ac mae eu rhan yn y gwaith o ddatblygu a llunio polisïau’n hanfodol bwysig, er mwyn sicrhau perchnogaeth a pherthnasedd yn y dyfodol.

 

Ein proses lywodraethu a chraffu sy’n sicrhau bod yna atebolrwydd cyhoeddus a bod penderfyniadau’n cael eu derbyn, ac felly dylai’r gwaith o gyflenwi’n rhwydweithiau trafnidiaeth lleol aros yn rhan o gylch gwaith llywodraeth leol, ac mae angen eglurder ynghylch ein perthynas waith gyda Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr atebolrwydd a’r craffu’n parhau ar lefel leol.

 

Er mwyn i’r rhanbarthau barhau i fod yn rhan o ddatblygiad y prosesau newydd hyn, i ddiweddaru a nodi sut all unrhyw rôl newydd weithio yn y dyfodol, mae angen ymrwymiad i barhau i ymgysylltu’n llwyr â’r prosesau hyn.

 

Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru “Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus” yn gofyn cwestiynau am rôl “Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol” a ph’un ai y dylai awdurdodau cyhoeddus gael y pwerau i’w ffurfio nhw.  Mae’n bwysig bod atebolrwydd yn cael ei ystyried a’i gytuno yn ystod pob cam o’r prosesau hyn yn y dyfodol, ac mae ymateb llawn ac ystyriol yn cael ei drafod ar hyn o bryd.

 
Rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol yw cyflenwi’r polisi trafnidiaeth.  Pa gyfrifoldebau ychwanegol ddylai’r sefydliad eu hysgwyddo, a sut ddylai’r rhain integreiddio â rôl Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, a’r awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd?

 

Hyd nes bod achos busnes ar gael i’w ystyried, nid oes modd gwerthuso a gwneud argymhellion.  Byddem yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu ac yn ymgynghori ag awdurdodau lleol cyn cyhoeddi’r achos busnes terfynol.

 

Gyda’r dirywiad presennol yng nghyllidebau awdurdodau lleol mae ein hadnoddau’n parhau i grebachu, ac yn sgil hynny ein capasiti mewn perthynas â’n timau priffyrdd a thrafnidiaeth.  Felly, gallai cyfle i oresgyn y problemau capasiti hyn fod yn gam allweddol i awdurdodau lleol, ond heb achos busnes, nid oes modd gwneud sylwadau pellach.

 

Mae’n bwysig bod y model ar gyfer y dyfodol yn cael ei ystyried yn llawn ac yn cael ei gynhyrchu ar y cyd gan awdurdodau lleol, rhanbarthau a Trafnidiaeth Cymru, yn hytrach na chael ei orfodi arnom.

 

Mae ein cadeirydd rhanbarthol eisoes wedi mynegi parodrwydd i drafod cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol, a chroesawn yr ymgysylltu hwn.  Hefyd byddwn yn parhau i gymryd rhan yn y broses o ddatblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.